<p>Cloddio Glo Brig</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 14 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:37, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, rwyf yn cytuno â'r pryder y mae hi’n ei fynegi. Bydd hi'n gwybod bod effaith ar fy etholaeth innau hefyd. Yn 1994, pan ddigwyddodd y preifateiddio, cafodd y cwmnïau hynny a gymerodd drosodd hen safleoedd Glo Prydain eu heithrio'n benodol rhag bod yn ofynnol iddynt roi arian o'r neilltu ar gyfer gwaith adfer, a dyma pam yr ydym ble yr ydym ni heddiw. Rydym yn croesawu adfer rhannol, ond nid yw'n adfer llawn, ac mae'n rhaid cael gwaith adfer llawn mewn amser. O gofio'r ffaith mai Llywodraeth y DU a greodd y broblem hon, nid oes amheuaeth yn fy meddwl i fod ganddynt gyfrifoldeb i weithio gyda ni er mwyn datrys y broblem.