Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 14 Mehefin 2016.
Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ym mhob rhan o’r Siambr yn falch o groesawu gyda mi y ffaith i’r cais glo brig yn y Farteg, yn fy etholaeth i, gael ei dynnu'n ôl. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd y DU, a wahoddais i ymweld â'r safle y llynedd, ac i Cadw, am eu gwrthwynebiadau, a arweiniodd at i'r cais gael ei dynnu'n ôl. Ond, wrth gwrs, nid yw'r rhan fwyaf o gymunedau yn gallu dibynnu ar gamau diogelu o ganlyniad i fod mewn Safle Treftadaeth y Byd ac mae angen iddynt ddibynnu arnom ni fel Cynulliad Cenedlaethol a'r camau diogelu yr ydym ni yn eu rhoi iddynt. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd yr adolygiad o Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2 yn cael ei ddwyn ymlaen fel mater o flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru?