Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 14 Mehefin 2016.
Mae'r mwyafrif helaeth o’r taliadau yng Nghymru wedi eu gwneud—dros 90 y cant, os cofiaf yn iawn. Mae, fel y dywed yr Aelod, rai ffermydd trawsffiniol sy'n aros am daliad, a hynny oherwydd ein bod yn aros am ddata. Nid dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd, ond rydym yn aros am ddata gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig. Hyd nes bod y data hwnnw ar gael, nid yw'n bosibl gwneud taliad llawn, yn anffodus. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cael ei ddatrys yn gyflym.