Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 14 Mehefin 2016.
Rwy’n cytuno’n llwyr â'r hyn y mae’r Prif Weinidog yn ei ddweud, ond mae'n gwbl anhygoel na all dwy asiantaeth y Llywodraeth ddod o hyd i fodd o siarad â'i gilydd yn electronig er bod hyn yn digwydd yn eithaf naturiol yn y sector preifat ac, yn wir, yn ein bywydau preifat. Felly, tybed beth y gall ef ei wneud i geisio integreiddio'r trefniadau gweinyddol rhwng Cymru a Lloegr yn hyn o beth, gan fod ffermwyr ar y ffin mewn trafferthion ariannol enbyd iawn.