Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 14 Mehefin 2016.
Rydym yn cytuno, Brif Weinidog, ar ein hundod o fewn Ewrop, a gadewch i ni ei gadael hi felly am y tro. Ni, yng Nghymru, yw’r wlad gyda'r ffigyrau allforio dwysaf yn y DU. Mae taliadau'r fantolen fasnach yn dangos gwarged o ran nwyddau gyda'r UE, ac nid yw hynny'n wir ar gyfer y DU. Bydd ansicrwydd, felly, yn effeithio mwy ar fusnesau Cymru ac economi Cymru. Byddwn yn cael ein heffeithio yn anghymesur yma. Rwy'n awyddus i ddeall pa gynlluniau wrth gefn sydd gan eich Llywodraeth os ceir pleidlais i adael yr UE yr wythnos nesaf. A allwch chi amlinellu pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i liniaru’r effeithiau gwaethaf ar economi Cymru a busnesau Cymru, yn enwedig busnesau sy’n allforio, pe byddai pleidlais i adael yr UE?