Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 14 Mehefin 2016.
Mae'n anodd iawn llunio cynllun wrth gefn pan fo cymaint o ansicrwydd. Does neb yn gwybod beth fyddai'n digwydd pe byddai pleidlais i ‘adael’. Sylwais ar y ffaith fod Nigel Farage ei hun wedi dweud yr wythnos diwethaf nad oedd ots os oedd cytundeb masnach o gwbl yn bodoli â'r Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n drychinebus i'n ffermwyr ac i’n hallforwyr. I mi, rwyf wedi gweld y ddwy ymgyrch, ac yn y pen draw mae'n dod i hyn: pam y byddem ni’n rhoi rhwystr diangen y byddai'n rhaid i ni neidio drosto o’n blaenau o ran denu buddsoddiad i Gymru? Mae'n fantais enfawr i gael mynediad am ddim i farchnad enfawr, yr UE. Un rhan o ddeg o'r farchnad honno yw'r DU. Gallwn fynd i’r farchnad honno. Mae colli’r gallu i fynd i’r farchnad honno neu beryglu’r farchnad honno yn rhoi mur arall o'n blaenau wrth geisio denu buddsoddiad ac wrth allforio. Y peth olaf sydd ei angen arnom yw ei gwneud yn anoddach i allforio yr hyn yr ydym yn ei gynhyrchu yng Nghymru, ac yn anoddach denu buddsoddiad i Gymru.