Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 14 Mehefin 2016.
Rwyf yn rhannu eich pryderon, Brif Weinidog, ac rwyf yn credu bod angen i ni feddwl yn ofalus iawn am yr hyn a fyddai’n digwydd pe byddai pleidlais i adael yr wythnos nesaf. Nawr, gwnaeth y cyn Prif Weinidogion Blair a Major fwrw i mewn i'r ddadl gan ddweud mai un arall o'r canlyniadau tebygol o bleidlais i adael fyddai chwalu’r DU. Nawr, rwyf yn derbyn bod gan ein pleidiau ddwy farn wahanol iawn am hynny, ond rwyf yn siwr ein bod yn cytuno ein bod am atal sefyllfa lle mae Cymru ar drugaredd Llywodraeth Dorïaidd yn gyfan gwbl, nad ydym erioed, erioed yn y wlad hon, wedi pleidleisio drosti. Pa gynlluniau wrth gefn sydd gennych chi ar gyfer Cymru os byddwn yn canfod ein hunain yn rhan o Deyrnas Unedig weddilliol lle y byddwn mewn perygl o wynebu Llywodraeth Dorïaidd, neu Lywodraeth hyd yn oed fwy asgell dde na'r un bresennol, ar sail barhaol? Pa gynlluniau sydd gennych chi i amddiffyn a hyrwyddo buddiannau gorau Cymru yn y sefyllfa honno?