Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf mewn ymateb i fy nghwestiynau ar y fargen y gwnaethoch ei tharo gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol, dywedasoch y byddai eich Llywodraeth yn sicrhau bod £42 miliwn ychwanegol ar gael i fodloni yr ymrwymiad hwnnw yn ychwanegol at yr ymrwymiad ym maniffesto Llafur o £100 miliwn i addysg. Aethoch ymlaen hefyd wedyn i ddweud, pe byddai gennych y cyfrifoldeb am dollau Pont Hafren, y byddech yn dileu tollau Pont Hafren, a byddai hynny ynddo'i hun yn achosi rhwymedigaeth o rhwng £15 a £20 miliwn i’ch Llywodraeth chi. Rydych chi'n bersonol wedi rhoi llawer o gyfalaf gwleidyddol i mewn i'r dewis drutaf ar gyfer ffordd liniaru'r M4, y llwybr du, sy'n unrhyw beth o £1 biliwn i £1.2 biliwn. Pa goeden arian y mae Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd iddi ym Mharc Cathays sy'n rhoi ffydd i chi eich bod yn mynd i ddod o hyd i’r holl arian newydd hwn yn sydyn i gyflawni'r ymrwymiadau hyn yr ydych yn eu gwneud yn ystod wythnosau agoriadol y pumed Cynulliad hwn?