Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 14 Mehefin 2016.
Felly, mae ef yn erbyn mwy o wariant ar addysg; y mae yn erbyn diddymu tollau Pont Hafren; mae yn erbyn ffordd liniaru'r M4. Mae'r tri pheth hyn yn bethau yr oedd ef, mae'n debyg, o’u plaid yr wythnos diwethaf. Rydym wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli’r tollau. Byddem yn disgwyl y byddai setliad ariannol teg i adlewyrchu hynny, er mwyn i ni allu cael gwared ar y dreth hon ar bobl sy'n dod i mewn i Gymru. Dyna'r hyn yr ydym ni yn sefyll drosto fel Llywodraeth. Nid yw'n glir beth yw safbwynt ei blaid ef bellach.