<p>Aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 14 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:54, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Na, nid ydym eisiau gwneud hynny. Nid yw addysg uwch yn gweithredu ar fodel Prydain fach, ond ar fodel y byd. Mae'n bwysig bod cymaint o arian â phosibl ar gael a chymaint o bŵer ymennydd academaidd ag y bo modd ar gael. Wrth gwrs rydym hefyd yn gweld, er enghraifft, ym Mhrifysgol Abertawe, bod y campws newydd wedi ei adeiladu yn rhannol gyda chymorth arian Ewropeaidd. Nid torri ein hunain i ffwrdd o’r brif ffrwd yw'r ffordd o ddatblygu gwyddoniaeth yn y DU.