<p>Aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 14 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 1:55, 14 Mehefin 2016

Fel y mae’r Prif Weinidog yn ymwybodol, os bydd y wladwriaeth Brydeinig yn aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, mi fydd yn dal llywyddiaeth cyngor yr undeb am chwe mis y flwyddyn nesaf. Byddai hynny’n gyfle euraidd i ddechrau’r broses o adnewyddu Ewrop a chreu partneriaeth sy’n gweithio yn well dros ein dinasyddion ni. A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno i sicrhau bod y llywyddiaeth yna yn un sydd ar y cyd rhwng Llywodraethau gwahanol Prydain, gyda Chymru’n chwarae rhan allweddol, a hyd yn oed ystyried cynnal uwch-gynhadledd Ewropeaidd yma?