<p>Aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 14 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:57, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

O gofio mai un o fanteision mawr y Blaid Lafur o fod yn perthyn i'r Undeb Ewropeaidd yw'r ddeddfwriaeth hawliau gweithwyr, yr honnir ei bod yn deillio o Frwsel, efallai y byddai'r Prif Weinidog yn dymuno rhoi sylwadau ar hawliau’r gweithwyr hynny a arferai gael eu cyflogi yn ffatri Bosch sy'n ffinio ar ei etholaeth, ac efallai y gallai adlewyrchu ar y ffaith mai arian Prydeinig, a ddefnyddiwyd mewn cymorth rhanbarthol, a adeiladodd y ffatri newydd sbon yn Hwngari mewn gwirionedd, a gostiodd iddynt eu swyddi, ynghyd, wrth gwrs, â’u holl hawliau gweithwyr.