Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 14 Mehefin 2016.
Ydw, rwy’n cytuno. Rwyf yn meddwl bod yn rhaid i ni gofio bod yr arian Ewropeaidd yr ydym wedi ei weld yn dod i mewn i Gymru yn arian na chafodd ei ddarparu gan Lywodraethau Prydain olynol yn y 1980au a'r 1990au; ni ddaeth i Gymru. Mae hwn yn arian ychwanegol nad oedd y Torïaid yn y 1980au a'r 1990au yn fodlon ei ddarparu i Gymru. Mae gennym sefyllfa o hyd lle nad yw fformiwla Barnett wedi cael sylw priodol. O leiaf gallwn ddibynnu ar y cyllid Ewropeaidd hwnnw. Beth fyddai'n digwydd pe na fyddai yno? Byddai'r arian hwnnw yn y pen draw yn ôl yn fformiwla Barnett neu yn cael ei gadw yn Llundain, ac ni fyddai rhanbarthau o Loegr, yn ogystal â Chymru a'r Alban, yn gweld yr arian hwnnw; byddai'n cael ei gadw yn Whitehall. Nid wyf yn credu’r ddadl hon bod yr arian hwn rywsut yn arian a fyddai'n dod i Gymru; rwy'n credu y byddai’r arian hwn, os yw'n bodoli o gwbl—wyddoch chi, mae’r Aelod David Melding wedi gwneud y pwynt hwn—yn eistedd yn Whitehall ac ni fyddem yn gweld pob ceiniog yr ydym yn ei chael ar hyn o bryd, ac mae hynny'n beryglus i bobl Cymru.