<p>Aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 14 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 1:59, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Siaradodd yr Aelod blaenorol am un busnes; hoffwn i dynnu sylw at y ffaith bod 770 o fusnesau wedi eu creu ym mhob rhan o Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys yn fy etholaeth i, Cwm Cynon, diolch i arian yr UE, gan gyflogi pobl leol a chyfrannu at yr economi leol. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi bod ein haelodaeth barhaus o'r UE a'r gefnogaeth y mae'n ei darparu yn hanfodol er mwyn cyfrannu at amgylchedd lle y gall busnesau yng Nghymru ffynnu?