Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, ac, fel yr ydych wedi tynnu sylw ato, nid oes dianc rhag y ffaith y bydd canlyniad y refferendwm yr wythnos nesaf yn cael effaith enfawr ar fusnesau Cymru—os ydych chi ond yn ystyried Twf Swyddi Cymru yn unig, rhaglen Llywodraeth Llafur Cymru, sydd, gyda chymorth ariannol yr UE, wedi galluogi cyflogwyr bach i gyflogi un neu ddau o bobl ac wedi helpu i gefnogi mwy na 15,000 o bobl ifanc i mewn i waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn unig. Rwy'n siŵr y byddwch wedi gweld llythyr ddoe a lofnodwyd gan 10 o brif unigolion busnes Cymru, gan gynnwys Laura Tenison, sylfaenydd JoJo Maman Bébé, a ddechreuodd ei busnes yn Nhorfaen, yn dadlau dros yr achos i Brydain aros yn yr UE . Brif Weinidog, a wnewch chi gytuno â mi a’r unigolion busnes arweiniol hynny yng Nghymru bod busnesau yng Nghymru yn gryfach, yn fwy diogel ac yn well eu byd yn yr Undeb Ewropeaidd?