Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 14 Mehefin 2016.
Gwnaf. Fel yr wyf yn ei ddweud, mae hanner yr hyn yr ydym yn ei allforio yn mynd i'r UE—ei hanner. Mae’n beryglus i chi ymyrryd â'r farchnad honno. Mae llawer o'n cyflogwyr mwyaf—Ford, er enghraifft, yn fy etholaeth fy hun—yn rhan o weithrediad Ewropeaidd. Dyna pam y mae mynd i’r farchnad Ewropeaidd yn gwbl hanfodol ar eu cyfer; dyna pam y maent yn y DU. Does dim cymhelliant iddynt aros yn y DU os na allant fynd i’r farchnad Ewropeaidd. Nid oes cymhelliant i fuddsoddwyr ddod i mewn i'r DU, oherwydd bod ei marchnad yn rhy fach, os nad ydynt yn gallu mynd i’r farchnad Ewropeaidd. Rydym yn gwybod ein bod yn gallu allforio yn rhydd ar hyn o bryd, rydym yn gwybod bod ein ffermwyr—a'n ffermwyr cig oen yn arbennig, sydd yn gwbl ddibynnol ar allforio i'r UE—yn gallu gwneud hynny. Ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn dweud, 'Rydym yn wlad gadarnhaol, hyderus, nid oes angen i ni i guddio y tu ôl i waliau, nid oes angen i ni roi ein pennau yn y tywod.' Ac arwydd o’r hyder hwnnw yw bod yn rhan o rywbeth mwy, gan sicrhau ffyniant i bawb.