Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 14 Mehefin 2016.
Mae’r Aelod yn iawn i ddweud taw marchnad fyd-eang yw meddyginiaeth a nyrsio; mae pobl yn teithio ar draws y byd gyda’r cymwysterau sydd gyda nhw, ac, wrth gwrs, mae yna sawl doctor a nyrs sydd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru sy’n dod o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd neu o’r tu fas i’r Undeb Ewropeaidd, er enghraifft y nyrsys yn yr ysbyty ym Mhen-y-bont sy’n dod o’r Philippines, lot fawr ohonyn nhw. Heb y bobl hynny, ni fyddai gwasanaeth iechyd gyda ni yng Nghymru nac yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae’n bwysig dros ben nad oes yna rwystr yn cael ei rhoi o’u blaenau nhw fel eu bod nhw’n ffaelu dod i Gymru nac i weddill y Deyrnas Unedig, achos y cleifion fydd yn dioddef o achos hynny.