<p>Blaenoriaethau ar gyfer y GIG</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 14 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nathan Gill Nathan Gill UKIP 2:09, 14 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, rwyf wedi derbyn llythyr oddi wrth un o fy etholwyr sy'n weithiwr iechyd sydd wedi bod yn gweithio yn y GIG am 19 mlynedd. Mae'n mynegi ei bryderon am Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Mae’n dweud bod y gwasanaeth yn methu oherwydd diffyg cyfeiriad strategol ac mae'n mynd ymlaen i ddweud bod effaith hyn yn golygu bod y straen yn ormod i unigolion bellach a’u bod yn camu o'r neilltu neu'n chwilio am ymddeoliad cynnar. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i ddatrys y sefyllfa hon ac i ddarparu'r gwasanaeth iechyd y mae pobl y gogledd yn ei haeddu?