Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 14 Mehefin 2016.
Nid oeddwn i’n ymwybodol. Rwy'n gwybod ble Mae'r Union yn Nhremadog. [Chwerthin.] Rwy'n gwybod yn iawn ble mae tafarn yr Union, ond mae'n rhaid i mi ddweud ei fod wedi fy nal yn y fan yna o ran y manylion. Byddaf yn ysgrifennu ato, wrth gwrs. Mae'n codi mater sy'n bwysig i dafarn yr Union, rwyf yn deall hynny—neu yn wir i unrhyw dafarn, ac mae tafarndai wedi wynebu anhawster ers blynyddoedd lawer oherwydd bod arferion yn newid. Fe wnaf ymchwilio i'r sefyllfa, ac fe wnaf, wrth gwrs, roi ateb llawn i'r Aelod.