Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 14 Mehefin 2016.
Brif Weinidog, mae gwasanaethau rheoleiddio, wrth gwrs, yn wasanaeth pwysig iawn ac yn faes allweddol werthfawr o lywodraeth leol—iechyd yr amgylchedd, safonau masnach, diogelwch bwyd, diogelu'r cyhoedd, darpariaethau tai rheoleiddiol, i enwi dim ond rhai. Ond mae llawer o'r ddeddfwriaeth newydd a basiwyd yn nhymor diwethaf y Cynulliad, mewn gwirionedd, wedi rhoi hyd yn oed mwy o rwymedigaethau ar ein hadrannau a dim ond 1 y cant o wariant cynghorau ar gyfartaledd sy’n cael ei wario ar y gwasanaethau hyn ledled Cymru bob blwyddyn. Sut y byddwch chi’n gweithio gyda'r Aelod Cabinet newydd—yr Ysgrifennydd dros lywodraeth leol, Mark Drakeford, yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr at ei gysgodi dros dymor y Cynulliad hwn—? Sut byddwch chi’n gweithio gydag ef i sicrhau bod ein hadrannau rheoleiddio yn cael cyllid priodol a digonol er mwyn cadw ein hetholwyr ledled Cymru yn wirioneddol ddiogel?