Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 14 Mehefin 2016.
Gwelais yr ymrwymiad a wnaethpwyd gan ei blaid ef yn yr etholiad. Nid oeddwn yn ei ddeall oherwydd nad oedd yn glir. Roeddem yn hollol glir o ran yr hyn yr oeddem ni yn ei gynnig i rieni sy'n gweithio, ac adlewyrchwyd hynny yng nghanlyniadau gwahanol y partïon, byddwn yn dadlau. Byddwn yn cyflwyno hyn fel yr hyn a oedd y prif addewid o'n pum addewid cyntaf cyn gynted ag y gallwn.