Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolch ichi, Lywydd. Rwyf yn ddiolchgar am y cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau chwe mis ar ôl cyflwyno Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 a chyflwyno cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau ar ôl marw yng Nghymru. Daeth hyn i rym yn llawn ar 1 Rhagfyr 2015. Bydd yr Aelodau'n gwybod y tybir bellach bod pobl 18 mlwydd oed a throsodd sydd wedi byw yng Nghymru am fwy na 12 mis ac sy'n marw yng Nghymru yn barod i roi eu horganau oni bai eu bod wedi nodi’n benodol nad ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Mae'r llwybr tuag at roi organau yn un cymhleth, ond yn y cam cydsynio y mae’r rhan fwyaf o roddion yn cael eu colli, ac rwyf yn hynod falch bod Cymru bellach yn arwain y ffordd fel y wlad gyntaf yn y DU i newid i system feddal o optio allan o gydsynio i roi organau. Rwyf yn llwyr ddisgwyl y bydd y system newydd yn sicrhau newid sylweddol o ran cydsynio i roi organau yng Nghymru ac mae arwyddion cynnar mai dyna sy’n digwydd. Yn yr un modd ag mewn llawer o wledydd Ewropeaidd eraill sydd â systemau tebyg, cyflwynwyd y gyfraith hon i fynd i'r afael â phrinder difrifol organau i'w trawsblannu sy'n ein hwynebu yng Nghymru. Rwyf yn siŵr ein bod i gyd wedi clywed straeon torcalonnus am bobl ar restrau aros am organau. Fodd bynnag, yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol, rydym yn rhagweld y bydd y system newydd yn golygu y bydd tua 25 y cant yn fwy o achosion o roi organau, neu 45 o organau ychwanegol y flwyddyn.
I baratoi at y newid yn y system gydsynio ar gyfer rhoi organau, gwnaethpwyd llawer iawn o waith i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ac i ymgysylltu â hwy. Yn y ddwy flynedd cyn rhoi’r ddeddf ar waith yn llawn, cynhaliwyd yr ymgyrch gwybodaeth iechyd y cyhoedd mwyaf a’r mwyaf pellgyrhaeddol yn hanes datganoli i esbonio'r newidiadau hyn. Yn awr, mae gwybodaeth reolaidd wedi ei chasglu am ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o'r gyfraith rhoi organau i fonitro effeithiolrwydd yr ymgyrch hwnnw. Dangosodd yr arolwg diweddaraf ym mis Chwefror 2016 y gallai 74 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru ddisgrifio'r newidiadau yn ddigymell, o gymharu â 53 y cant yn 2012. Yn awr, mae hon yn lefel ddigynsail o ddealltwriaeth ynghylch rhywbeth yr oedd rhai’n ei ystyried yn gymhleth. Mae’r gwahaniaeth hwn o 21 y cant yn tystio i ymgyrch hynod effeithiol, a hoffwn ddiolch o galon i bobl Cymru nid yn unig am gofleidio’r ddeddfwriaeth hon sy'n torri tir newydd ond hefyd am roi o'u hamser i ystyried, i drafod ac i gofrestru eu penderfyniad ynghylch rhoi organau.
O 28 Mai 2016, mae ychydig dros 167,000 o bobl yng Nghymru, neu tua 5 y cant o'r boblogaeth, wedi eu cofrestru ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG i optio allan. Mae hynny'n llai o lawer nag a ragwelwyd ym mis Mehefin y llynedd, pan ddangosodd arolwg y byddai 14 y cant o drigolion Cymru’n optio allan. Mae'n bwysig iawn fod pobl sy’n dymuno optio allan yn gadarnhaol o'r system yn cael cyfle i wneud hynny. Ond, yn ogystal, erbyn hyn mae dros 1.1 miliwn o bobl yng Nghymru, dros 35 y cant o'r boblogaeth, bellach wedi eu cofrestru yn gadarnhaol i optio i mewn i roi organau.
Hoffwn ddiolch i'r sefydliadau niferus sy’n rhanddeiliaid am eu cefnogaeth ddiflino. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r holl gleifion a theuluoedd a helpodd â'n hymgyrch gwybodaeth gyhoeddus trwy rannu eu profiadau eu hunain, eu profiadau teimladwy, i bersonoli'r ymgyrch. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb waith caled a chefnogaeth nifer fawr iawn o bobl ledled Cymru a thu hwnt.
Roedd ailddatblygu'r gofrestr rhoddwyr organau yn rhan allweddol o'r gwaith yr oedd ei angen i ddarparu modd o gofnodi penderfyniad i optio allan. Cafodd y gwaith hwnnw ei wneud gyda Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG a gwledydd eraill y DU, a’i gyflwyno chwe mis cyn i'r gyfraith ddod i rym. Roedd hynny’n rhoi digon o amser i bobl i gofnodi eu penderfyniad. Gall pawb yn y DU yn awr gofnodi eu penderfyniad ynghylch rhoi organau, beth bynnag fo’r penderfyniad hwnnw. Ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth pobl ar draws y Siambr hon i ddatblygu a gweithredu’r Ddeddf.
Bydd angen parhau i hybu dealltwriaeth o'r system newydd a’r dewisiadau ynghylch rhoi organau sydd ar gael i bobl yng Nghymru: optio allan, optio i mewn neu wneud dim. Bydd y cynllun cyfathrebu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn canolbwyntio ar hyrwyddo sgyrsiau rhwng teuluoedd ac anwyliaid am eu penderfyniadau ynghylch rhoi organau, ac annog pobl hefyd i gofrestru eu penderfyniad ar y gofrestr rhoi organau.
Er bod cynnydd yn lefelau ymwybyddiaeth pobl yn fesur o lwyddiant, y prawf gwirioneddol fod ein deddfwriaeth wedi sicrhau’r canlyniad sydd ei angen fydd cynnydd yn nifer y rhoddwyr, a fydd yn golygu bod mwy o gleifion a theuluoedd yn elwa ar drawsblaniadau. Roedd canlyniadau’r chwe mis cyntaf ar ôl rhoi’r ddeddfwriaeth newydd ar waith, o 1 Rhagfyr y llynedd hyd at 31 Mai eleni, yn dangos y bu 18 o achosion o gydsynio tybiedig yng Nghymru. Aeth deg o'r rhain ymlaen i roi organau, ond roedd cyfanswm o 42 yn rhagor o roddwyr wedi cydsynio i roi organau yn y cyfnod hwnnw. Yn yr un cyfnod yn 2014-15, roedd 38 o roddwyr wedi cydsynio, a 31 yn 2013-14.
Os edrychwn ar y 18 o achosion o gydsyniad tybiedig, aeth 10 claf ymlaen i roi organau. O’r rhoddwyr hynny, rhoddwyd 37 o organau ac aeth 32 ymlaen i’w trawsblannu. O gymharu â'r ffigurau ar gyfer y cyfnod cyfatebol cyn y newid yn y gyfraith ar gyfer yr holl roddwyr yr aethpwyd ymlaen i drawsblannu eu horganau, mae’r niferoedd hyn yn edrych yn gadarnhaol iawn yn wir. Mae gwerthusiad ffurfiol o effaith y gyfraith newydd wedi ei gomisiynu a chaiff ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf.
Rwyf yn ddiolchgar i Aelodau o bob plaid am eu cyfraniadau dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod Cymru wedi gallu arwain y DU a datblygu system feddal o optio allan o gydsynio i roi organau. Roedd angen gweddnewid y drefn ar gyfer sicrhau cydsyniad rhoddwyr a theuluoedd yng Nghymru, a chredaf fod rhoi Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 ar waith wedi sicrhau’r newid hwnnw. Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau a chwestiynau’r Aelodau.