Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 14 Mehefin 2016.
Yn ogystal â defnyddio’r cyfle cyntaf hwn yn y Senedd i longyfarch yr Ysgrifennydd Cabinet ar ei benodiad a diolch iddo, wrth gwrs, am y datganiad yma, a gaf i longyfarch pob un sydd wedi’i gwneud hi’n bosibl inni gyrraedd y pwynt yma o ran rhoi organau yng Nghymru? Mi glywn ni, rwy’n gwybod, gan fy nghyd-Aelod i, Dr Dai Lloyd, yn y man. Rwy’n gwybod fod ganddo fo ychydig o gwestiynau i’w gofyn. Ond, mi fyddwn i’n licio rhoi teyrnged iddo fo a diolch iddo fo am gyflwyno’r cynnig i newid deddfwriaeth yn ôl yn 2007.
Rwy’n gobeithio bod yr ystadegau cynnar sydd wedi cael eu hamlinellu gan yr Ysgrifennydd yn dangos bod hwn yn gam sydd wedi bod yn werthfawr ac yn gam sydd wedi yn barod ac a fydd yn achub llawer iawn o fywydau. Mi fydd yn achub llawer o fywydau yma yng Nghymru. Ond, rwy’n gobeithio, fel sydd wedi’i weld efo sawl darn o ddeddfwriaeth arloesol yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, y bydd yn hwb i gyrff democrataidd eraill yn yr ynysoedd yma i weithredu mewn modd yr un mor flaengar.
A gaf i ofyn pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael efo Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig i wthio arnynt hwy i fabwysiadu system debyg, yn enwedig, wrth gwrs, o ystyried y gallai cleifion mewn rhannau eraill o’r ynysoedd yma fod wedi manteisio o’n Deddf newydd ni yng Nghymru a’r ystadegau positif sydd wedi dod ymlaen o ganlyniad i hynny?
A gaf i ofyn hefyd faint o bobl a allai fod wedi rhoi organau a oedd wedi optio allan yn y cyfnod yma? Rwy’n nodi o’r datganiad fod llawer llai wedi optio allan na’r disgwyl—rhyw 5 y cant o’i gymharu, o bosib, â 14 y cant a gafodd ei amcangyfrif mewn arolwg cynharach—ond mae pob un sy’n cael ei golli, wrth gwrs, yn gyfle yn cael ei golli i arbed bywyd. Felly, beth ydy’r ystadegau yn y fan honno? Ac, o ystyried, felly, fod angen parhau i hysbysu pobl am y pwysigrwydd o roi organau, pa fwriad sydd gan y Llywodraeth i barhau â’r gwaith o addysgu pobl yn y maes yma, yn dilyn y newid deddfwriaethol?
Yn achos rhai nad oedd wedi nodi'r naill ffordd na’r llall, yn sawl achos gwnaed penderfyniad i beidio â rhoi organau wedi trafodaethau efo’r teulu, ac nid, hynny yw, ar sail feddygol? Ond, yn gyffredinol heddiw, wrth gwrs, fel pawb arall yma yn y Siambr, mae hon wedi bod yn drafodaeth sydd wedi codi cwestiynau moesol dyrys iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ond, fel rwy’n dweud, y canlyniadau sy’n cyfrif yn y pen draw, ac mae’n braf gallu edrych yn ôl ar gychwyn llwyddiannus i gyfnod dan y ddeddfwriaeth newydd yma.