Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolch ichi am y gyfres honno o gwestiynau. Rwyf am ymdrin yn gyntaf â'r pwynt yr wyf yn credu oedd yn gamddealltwriaeth, yn anad dim, oherwydd roeddwn yn cyfeirio mewn gwirionedd at rôl y teulu wrth beidio â chefnogi rhoi organau, ond rhywun sydd wedi gwneud y penderfyniad i fynd ar y gofrestr i optio i mewn. Mae hynny'n dal i ddigwydd, ond mae hynny'n rhan o'r hyn sydd angen inni ei wneud. Mae'n rhan o sensitifrwydd y gweithwyr meddygol proffesiynol ac, yn arbennig, yn y cyfnod craffu ar hyn ac wedi hynny, y cofnod o rôl y nyrs arbenigol, o ran bod yn gadarnhaol wrth esbonio’r dewis a'r hyn y mae'n ei olygu i bobl ar y pryd, p’un a ydynt yn optio i mewn neu allan, p'un a ydynt yn cydsynio i’r organau gael eu rhoi a hefyd, yn benodol, y rhai sydd yn dweud 'ie', oherwydd un o’r pethau sydd wedi bod fwyaf teimladwy drwy'r broses hon yw cwrdd â theuluoedd ac anwyliaid y bobl sydd wedi mynd ymlaen i fod yn rhoddwyr. Felly, mae gan lawer ohonynt stori gadarnhaol i’w hadrodd am farwolaeth na fu’n ofer, a deall bod pobl eraill sydd wedi parhau â'u bywydau oherwydd y dewis sydd wedi ei wneud. Ac mae clywed hynny wedi bod yn ddiffuant iawn, ac yn ysbrydoliaeth.
O ran eich pwyntiau ehangach am ymchwil ynglŷn ag effaith hyn ac adolygiad, rydym, wrth gwrs, wedi ymrwymo i adolygu effaith y ddeddfwriaeth. Rwyf yn siŵr y bydd nifer o bobl sy'n dymuno gwneud eu hymchwil eu hunain ar effaith y gyfraith, ond mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i adolygu effaith y ddeddfwriaeth. Ni fyddwn yn gwneud hynny ar hyn o bryd oherwydd datganiad diweddaru yw hwn yn hytrach nag adolygiad ffurfiol o ble yr ydym yn y chwe mis cyntaf. Byddwn yn gwario tua £200,000 yn ystod y flwyddyn nesaf ar hyrwyddo’r hyn sydd wedi digwydd, yr ymgyrch wybodaeth, ond fel y gwyddoch, bydd y cyllid yn parhau i mewn i'r flwyddyn nesaf oherwydd bod y Cynulliad wedi ymrwymo i wario tua £7.5 miliwn dros 10 mlynedd pan basiwyd y ddeddfwriaeth hon.
Rwyf am ddechrau drwy gydnabod yr hyn a ddywedodd Angela Burns ar ddechrau ei chyfraniad, ac nid dim ond diolch—dylwn ddweud hynny wrth Rhun hefyd—ond dweud llongyfarchiadau wrthoch chi a Rhun ap Iorwerth ar y newid yn eich swyddogaeth, a chroeso i bortffolio diddorol iawn lle mae bron i hanner arian y Llywodraeth yn cael ei wario. Rwyf yn cydnabod, ar y mater penodol hwn, nid yn unig fod gan y Ceidwadwyr Cymreig bleidlais rydd, ond rwyf yn cydnabod ichi ddweud eich bod yn sgeptig, a’i fod yn gam mentrus cefnogi'r ddeddfwriaeth a oedd ar ddod. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch yr effaith y mae'r ddeddfwriaeth yn ei chael ac, yn yr un modd, ein bod yn deall bod mwy y gallem neu y dylem fod yn ei wneud i wella'r system. Ac nid mater o gynyddu nifer y rhoddwyr yn unig yw hynny, ond deall yn wirioneddol effaith unrhyw benderfyniad i fwrw ymlaen â rhoi organau ar deuluoedd.
Ymdriniaf â’r ddau bwynt olaf yn eich sylwadau a'ch cwestiynau. Roedd y cyntaf yn ymwneud â sicrhau bod ymwybyddiaeth yn parhau, yn enwedig ymhlith pobl iau. Rydym eisoes yn bwriadu sicrhau bod pobl sy'n agosáu at eu pen-blwydd yn ddeunaw oed yn cael yr hyn a alwyd yn—nid wyf yn siŵr ai dyma’r derminoleg iawn—‘llythyr codi’n 18 oed'. Felly, mae pobl sy'n agosáu at eu pen-blwydd yn ddeunaw yn cael neges ffurfiol sy'n dweud wrthynt, yn eu hatgoffa, am y system newydd a beth yw eu dewisiadau ac yn eu hannog i siarad â'u hanwyliaid, i gael y sgwrs gyda phobl o'u cwmpas am yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd. Yn yr un modd, ar gyfer y dyfodol, rydym yn edrych ar gofrestru â meddygon teulu. Nid yw'n barod eto, ond rywbryd dylem fod yn gallu gwneud rhywbeth lle bydd pobl yn cofrestru â'u meddygon teulu, fel y gall pobl gofrestru eu dewis yn y fan honno hefyd. Po fwyaf o gyfleoedd a roddwn i bobl, po hawsaf yr ydym yn ei gwneud i bobl gofnodi beth yw eu dewis—optio i mewn, optio allan neu wneud dim—gorau oll y bydd hi yn fy marn i i bob un ohonom. Dyna ran o'r llwyddiant y mae ei angen i’r ddeddfwriaeth hon ei gael, gweld yr effaith yr ydym am iddi ei chael, lle bydd mwy a mwy o fywydau’n cael eu hachub bob blwyddyn.