Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 14 Mehefin 2016.
Hoffwn innau hefyd eich llongyfarch ar eich penodiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch ichi am eich datganiad. Mae'n newyddion da yn wir fod cydsyniad tybiedig wedi creu 10 yn rhagor o roddwyr a gyfrannodd at hanner y trawsblaniadau yn y chwe mis diwethaf. Rhoi organau yw’r weithred fwyaf o haelioni a thrugaredd y gall person ei gyflawni. Yn anffodus, mae gennym dros 200 o bobl sy’n dal i aros am drawsblaniad achub bywyd yng Nghymru, ac eto dim ond 35 y cant o bobl yng Nghymru sydd wedi optio i mewn i'r gofrestr rhoi organau.
Mae cydsyniad tybiedig yn gam mawr ymlaen ac mae 32 o organau wedi eu trawsblannu na fyddent efallai wedi eu trawsblannu pe na bai'r system ar waith. Ond mae gennym i gyd ddyletswydd i annog pobl i gofrestru fel rhoddwyr. Mewn 43 y cant o achosion lle mae rhoi organau yn bosibl, mae teuluoedd yn dweud 'na' i roi’r organau, am nad ydynt yn gwybod a oedd eu hanwyliaid am fod yn rhoddwyr. Gadewch inni gymryd y baich oddi ar ein teuluoedd sy’n galaru a chofrestru fel rhoddwyr organau. Pan fydd pobl yn cofrestru fel rhoddwyr, dylai eu dymuniadau, p’un a yw eu teuluoedd yn cytuno ai peidio, gael eu parchu ac ni ddylent gael eu diystyrru. Dim ond os byddwch yn marw yng Nghymru y bydd cydsyniad tybiedig yn berthnasol. Gadewch inni sicrhau ein bod yn gallu arbed bywydau ar ôl ein marwolaeth mewn mannau eraill yn y DU drwy optio i mewn i'r gofrestr rhoi organau.
Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i annog mwy o bobl i gofrestru fel rhoddwyr? Beth am gyngor rhieni i bobl ifanc sy’n paratoi i adael yr ysgol? Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella addysg am roi organau? Mae llawer o’r bobl sy’n gwrthwynebu rhoi organau yn gwneud hynny am resymau crefyddol. A yw Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda grwpiau crefyddol i helpu i addysgu pobl am gredoau bod yn rhoddwr organau? Mae'n anffodus, os na ellir cysylltu â theulu rhoddwr posibl, na ellir tybio cydsyniad i roi organau. Pa ystyriaeth y mae’r Llywodraeth wedi’i rhoi i ychwanegu manylion cysylltu mewn argyfwng i gofnodion meddygol claf?
Ysgrifennydd y Cabinet, dim ond 157,000 o bobl sydd wedi optio allan o’r gofrestr rhoi organau. Gadewch inni ddefnyddio'r chwe mis nesaf i berswadio gweddill y cyhoedd yng Nghymru ei bod yn well os ydynt yn rhoi eu cydsyniad penodol i roi organau ac yn dweud wrth eu hanwyliaid beth yw eu dymuniadau na dibynnu ar ganiatâd tybiedig yn unig. Diolch.