Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau, Dai Lloyd. Rwyf yn fwy na hapus, fel y dywedais wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, i barhau â'r sgwrs â Seneddau eraill a rhannau eraill o deulu’r GIG ledled y DU. Fel y dywedais, gwn eu bod yn ystyried hynt ein deddfwriaeth a'r effaith ymarferol ar nifer y bobl sy'n mynd ymlaen i roi organau, a bod ganddynt ddiddordeb yn hynny.
Credaf fod hyn yn enghraifft dda iawn o ddefnyddio ein pwerau’n greadigol yn y lle hwn at ddiben go iawn—gwahaniaeth ymarferol a gwell i ddinasyddion yng Nghymru. A chredaf fod rheswm trawsbleidiol gwirioneddol yma i gydnabod sut y gallem wneud pethau yn y dyfodol yn ogystal. Yn benodol, ynghylch eich pwynt fod pob rhoddwr yn helpu mwy nag un person: rydym wedi gweld 10 o bobl yn mynd ymlaen i roi organau, 32 trawsblaniad ychwanegol yn digwydd, yn y chwe mis cyntaf trwy gydsyniad tybiedig. Dyna nifer sylweddol o bobl sy'n cael eu helpu gan y ddeddfwriaeth hon ac rwyf yn gobeithio gweld gwelliant pellach yn hynny o beth yn y dyfodol hefyd. Ond byddwn yn dweud, hyd yn oed yn awr, os bydd hynny’n parhau yn y dyfodol, yna bydd y ddeddfwriaeth wedi bod yn werth chweil—llawer iawn, iawn o bobl yn y blynyddoedd i ddod sy'n gallu dweud bod eu bywyd wedi gwella neu ei achub oherwydd y dewis yr ydym wedi ei wneud i greu'r ddeddfwriaeth hon.
Ymdriniaf â'ch pwynt olaf ynglŷn â natur y sgwrs. Rydych yn llygad eich lle ein bod wedi llwyddo i basio’r ddeddfwriaeth, felly mae'n newid natur y sgwrs a'r ffordd y mae pobl yn mynd ati i gael sgwrs ar adeg anhygoel o anodd i unigolion wrth ffarwelio â rhywun annwyl a deall yr hyn a allai ddigwydd wedyn o ran rhoi bywyd i bobl eraill hefyd. Mae sicrhau bod y sgwrs yn dechrau o bwynt cadarnhaol ynghylch rhoi organau, os mynnwch, fel yr opsiwn diofyn i’w ddewis, yn rhywbeth a ddaeth yn amlwg yn yr ymgynghoriad yn ystod taith y Bil ac mae wedi ei atgyfnerthu hefyd yn y cyswllt rhyngom a phobl drwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, credaf fod rheswm da dros fod yn optimistaidd am hynny, ond rheswm yr un mor dda i weld a yw hynny'n dal i fod yn wir yn ymarferol, o ran y ffordd y mae gwahanol bobl y tu allan i’r lle hwn—cymunedau ffydd a gwirfoddol—ac, yn arbennig, cysylltu â phobl sy’n cael y sgyrsiau hynny, ynghylch a yw’r hyn yr ydym yn meddwl ein bod yn ei weld yn y chwe mis cyntaf yn cael ei gynnal neu a oes mwy y gallwn ei wneud i wella'r sefyllfa ymhellach.