Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Dechreuaf â'r un olaf: ydy, mae tua 25 y cant o'r rhaglen bresennol yn cael ei ariannu gan gronfeydd Ewropeaidd, ac rwy’n credu ei bod yn deg i ddweud na fyddai'r rhaglen brentisiaeth y llwyddiant yw hi heddiw heb y cronfeydd hynny. Rydym hefyd wedi elwa ar aelodaeth o wahanol sefydliadau CVET ledled Ewrop ac yn wir rwyf wedi mynychu cynhadledd er mwyn dysgu o'r arfer gorau ledled Ewrop wrth weithredu cynlluniau prentisiaeth a chynlluniau dysgu yn y gwaith yn gyffredinol. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl, yn fy meddwl i beth bynnag, bod ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wedi gwella ein hansawdd a’n gallu i dalu am ein rhaglen gyfredol.
Af yn ôl drwy eich cwestiynau oherwydd dyna’r ffordd yr wyf wedi eu hysgrifennu i lawr. O ran y cynlluniau prentisiaeth ar y cyd, mae gennym nifer o rai llwyddiannus. Un o'r pethau yr ydym yn ceisio ei wella yw defnyddio'r wybodaeth am y farchnad lafur a geir oddi wrth ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol, sydd mewn gwirionedd i gyd yn gweithredu o ddifrif erbyn hyn ac rydym yn edrych ymlaen at gael eu cynlluniau blynyddol unrhyw funud nawr—rwy'n credu mai diwedd y mis hwn fydd hynny, heb edrych yn fwy manwl; os ydw i'n anghywir byddaf yn cywiro fy hun, ond rwy’n meddwl mai diwedd y mis hwn fydd hynny. Yr hyn y maen nhw'n ei wneud yw sbarduno trefniadau rhanbarthol o'r math hwnnw ac rydym i gyd yn gwybod mai cyflogwyr bychan sy'n cael eu helpu fwyaf. Roedd cynllun ardderchog i fyny ym Mlaenau Gwent y bûm i yno gydag Alun Davies, lansio hynny ochr yn ochr â'r cyngor lleol, sydd yn esiampl dda iawn o sut y gall y cynlluniau hynny weithio.
Felly, ie, yr hyn yr ydym yn gobeithio'n fawr ei wneud yw cael yr hyn sy’n addas ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Felly, bydd y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn sbarduno llawer o'r gweithredu yn eu hardal ac mae hynny hefyd yn wir am y Gymraeg, oherwydd, fel y gwyddoch, mae llawer mwy o alw am brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn gwahanol rannau o Gymru nag sydd , er enghraifft, yn Abertawe, y lle rwyf i’n ei gynrychioli, er bod rhywfaint o alw yno. Yr hyn y byddwn yn ei wneud yw gweithio gyda rhwydwaith o ddarparwyr i wneud yn siŵr lle mae prentisiaethau yn y Gymraeg yn ofynnol, neu lle mae bwlch sgiliau ar gyfer hynny, ein bod yn gallu llenwi'r bwlch hwnnw gyda darpariaeth briodol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Aelod wrth wneud hynny.
Nid ydym yn gwybod sut beth yw llwyddiant ar gyfer hynny ar hyn o bryd oherwydd mai un o'r pethau yr ydym am ei wneud rhwng nawr a mis Medi yw siarad eto â bob un o'n rhanddeiliaid am yn union hynny a sicrhau ein bod yn llunio'r rhaglen sydd ar y gweill yn gwbl gywir. Yr hyn yr wyf i’n ei gyhoeddi heddiw mewn gwirionedd yw'r cynllun i ymgynghori ar hynny dros yr haf ac i ddod yn ôl i'r Cynulliad hwn yn gynnar yn nhymor yr hydref gyda chynllun ar gyfer hynny.
O ran y niferoedd a'r mathau sy'n rhan o hynny, nid wyf i'n fodlon sôn am niferoedd oherwydd mae'n cymryd, er enghraifft, tair gwaith cymaint o arian i hyfforddi prentis peirianneg ag y mae i hyfforddi prentis proses fusnes. Felly, os byddaf yn dweud y bydd nifer penodol, mae'n bosibl wedyn y bydd yn rhaid i mi hyfforddi mwy o bobl nad ydym eu heisiau na'r bobl yr ydym eu heisiau er mwyn taro beth fyddai'n rhif targed ffug. Yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw y bydd o leiaf 100,000. Dyna oddeutu'r lefel, gan ei fod wedi mynd i fyny ac i lawr ychydig dros dymor diwethaf y Cynulliad, ond mae'n cyfateb yn fras i’r lefel oedd gennym y tro diwethaf. Roedd hwnnw’n lefel da. Cafodd ei gynorthwyo gan nifer o gytundebau cyllideb gyda’ch plaid chi a'r Democratiaid Rhyddfrydol ac rydym yn hapus iawn i fynd ymlaen ar y sail honno. Ond rwy’n awyddus iawn i gyfateb y ddarpariaeth prentisiaethau i’r angen yn yr economi am hynny ac i'r diffyg sgiliau a ragwelir.
Yna, yn olaf ond nid yn lleiaf, ar yr ardoll, rydym wedi cael cyfathrebu a thrafod helaeth, gyda swyddogion yn cwrdd. Rwyf wedi cwrdd â Gweinidogion fy hun. Nid oes gennym eglurder. Ein dealltwriaeth ar hyn o bryd yw y bydd yn gweithredu ar fformiwla Barnett yn yr un modd â’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau. Dioddefodd yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau doriad o tua 17 y cant, ac ni fyddai hynny'n rhoi unrhyw arian ychwanegol i ni o gwbl, ond nid yw’r trafodaethau hynny drosodd eto a byddaf i a'r Gweinidog cyllid yn siarad eto mewn peth dyfnder am sut y gallwn wneud y gorau ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, nid dim ond Cymru yw hyn. Yn Lloegr, mae'n amlwg erbyn hyn bod yr arian ardoll brentisiaeth yn disodli arian a oedd yn drethi cyffredinol yn flaenorol, a'r hyn yr ydym yn edrych arno mewn gwirionedd yw treth gyflogwr benodol, gan ddisodli arian a roddwyd i'r math hwn o gyllid gan arian trethi cyffredinol yn flaenorol.