Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 14 Mehefin 2016.
Mae llawer o drigolion yn fy etholaeth i, sef Cwm Cynon, ymhlith yr 1 miliwn neu fwy o bobl ledled Cymru sy'n rhoi'n hael o'u hamser i wella eu cymunedau a bywydau eu cymdogion. Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i ni ddweud 'diolch' wrthynt ac i dynnu sylw at eu cyfraniad. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y 40,000 o wirfoddolwyr o bob rhan o'r DU a weithiodd gydag Ymddiriedolaeth Trussell y llynedd i ddarparu banciau bwyd ledled Cymru, am eu rhan wrth helpu’r sefydliad i fod y prif enillydd yng Ngwobrau Elusennau 2016?
Yn ail, mae gwirfoddolwyr yn gorfod cymryd cyfrifoldeb am ddarparu mwy o wasanaethau lleol a darparu gwasanaethau lleol cynyddol gymhleth o ganlyniad i doriadau gwariant yn y sector cyhoeddus, er enghraifft drwy drosglwyddo asedau cymunedol. Yn aml, gall fod angen sgiliau rheoli cymhleth ar gyfer hyn. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwirfoddolwyr i ddatblygu'r sgiliau hyn?
Yn olaf, mae astudiaethau wedi dangos bod gwirfoddoli yn gallu gwella iechyd meddwl unigolyn. Sut y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo hyn orau o fewn ei pholisi gwirfoddoli?