Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Gwn ei bod yn cynrychioli Cwm Cynon yn dda iawn, ac yn cynrychioli’r nifer o bobl sy'n gwirfoddoli yn ei chymuned; rwyf hefyd yn 'diolch' iddynt hwythau. Roedd braidd yn drist, mewn gwirionedd mai un o'r busnesau a dyfodd gyflymaf y llynedd oedd banciau bwyd, a chredaf mai cyni cyllidol sy’n peri i hyn ddigwydd mewn gwirionedd. Ond mae 40,000 o bobl yn neilltuo amser i gefnogi ei gilydd yn ein cymuned; dylem, unwaith eto, fod yn falch iawn o hynny, a hoffwn gofnodi fy niolch i fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell a’r holl fanciau bwyd sy'n gweithredu ar draws ein cymunedau. Mae'n adlewyrchiad trist iawn ein bod eu hangen, ond maen nhw gennym ac maen nhw'n cael eu rhedeg yn dda iawn.
Mae trosglwyddo asedau cymunedol yn elfen arall o raglenni cymhleth. Yr hyn yr wyf yn awyddus i’w wneud—a gallai hyn swnio'n heriol—credaf ein bod yn colli cyfle gan fod rhai o'n cymunedau, y rhai hynny sydd angen yr asedau hyn fwyaf, yn gymunedau sydd wedi eu galluogi. Mewn gwirionedd, mae gennym sawl agwedd ar ymgysylltu â'r gymuned lle mae gennym bobl cyn-broffesiynol sydd wedi ymddeol sy'n gallu rheoli'r cyrff hyn yn dda iawn, ond mae'r cymunedau lle nad yw’r bobl hyn yn byw ynddynt, mewn gwirionedd yn cynnwys y bobl sydd eu hangen fwyaf, a dyna lle y dylem ni, heb os, ganolbwyntio fwyaf, gan edrych ar gynnal ein cymunedau sydd fwyaf dan fygythiad, lle y dylem fod yn annog mwy o wneud hyn.
Mae'r Aelod yn hollol gywir i godi'r mater ynghylch lles ac iechyd meddwl hefyd. Dywedais wrth yr Aelodau yn gynharach fy mod yn credu bod y gallu i wirfoddoli yn cyflwyno dewis haws i bobl o bosibl i gychwyn gweithio nes ymlaen, ond hefyd mae’n eu datblygu ymhellach i allu adeiladu perthynas gyda chymunedau, a chydag unigolion eraill, pan allai fod ganddynt weithiau faterion personol heriol iawn eu hunain. Felly, credaf mai gwirfoddoli yw’r llwybr cywir, a dylem annog pobl o bob rhan o gymdeithas. Ond, mewn gwirionedd, o ran y mater ynghylch cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl, gall gwirfoddoli fod yn ddewis gwych.