Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 14 Mehefin 2016.
Diolch. Yn amlwg, byddai'r cyfle i gael trafodaeth bellach yn cael ei groesawu os bydd hyn yn mynd drwodd. Yn anffodus, unwaith eto, ni fydd hynny'n cynrychioli ymrwymiad. Rwy'n gobeithio y gwnewch gadarnhau, os bydd y dadleuon y byddwch yn eu clywed—rhai ohonynt yr wyf fi wedi eu cyflwyno heddiw—yn argyhoeddiadol, y gallai hynny mewn gwirionedd arwain at Lywodraeth Cymru yn ailedrych ar hyn wedyn gyda'r bwriad o wneud rheoliadau ychwanegol neu ddiwygiadau ychwanegol i'r rheoliadau yn unol â hynny.
Dywedaf wrth Blaid Cymru fy mod yn cefnogi'r amcan y tu ôl i fathodynnau glas dros dro. Mae hyn er mwyn helpu a manteisio i'r eithaf ar y cymorth sydd ar gael i bobl anabl—wedi'u gwneud yn anabl gan y rhwystrau y mae cymdeithas yn eu gosod arnynt. Pe byddech wedi sefyll gyda mi, efallai y gallem fod wedi perswadio Llywodraeth Cymru heddiw i gytuno i gyflwyno ystyriaeth o fesurau mwy hyblyg wedi hynny, ac wedyn gallwn fod wedi tynnu'r cynnig yn ôl gan wybod eu bod wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw. Ond, oherwydd eich bod wedi rhoi eich sêl bendith iddynt, nid oes gennym yr ymrwymiad hwnnw. Y cyfan sydd gennym nawr yw datganiad gyda chanlyniad heb fod ymrwymiad iddo. Felly, rwyf yn gresynu nad ydych wedi defnyddio efallai y crebwyll gwleidyddol hwnnw i fwrw ymlaen â hynny ar y sail honno, ond dyna ni. Efallai, dros amser, bydd pethau'n newid.