<p>Cydgysylltu Trafnidiaeth Trawsffiniol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 1:36, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn gwybod cystal â minnau, er mwyn i ogledd Cymru ffynnu yn economaidd, mae angen cysylltiadau trafnidiaeth cryf ac effeithiol ar draws y rhanbarth, ac ar draws y ffin gyda’n cymdogion agos yng ngogledd-orllewin Lloegr hefyd. Mae gwella cysylltiadau ffordd fel yr A55 a’r A494 yn hanfodol, ond mae angen cynllun trafnidiaeth ehangach arnom i gefnogi cydweithredu economaidd trawsffiniol hanfodol gyda gogledd-orllewin Lloegr. A wnewch chi, felly, roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â datblygiad metro gogledd-ddwyrain Cymru ochr yn ochr â hynny i hybu cydweithredu economaidd trawsffiniol?