<p>Cydgysylltu Trafnidiaeth Trawsffiniol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:37, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, ac a gaf fi ddweud bod gan economi gogledd Cymru botensial rhyfeddol? Dyna yw ein porth i’r byd a hoffem ei weld yn llwyddo. Rydym wedi dechrau gweithio i hybu datblygiad system metro ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru. Mae’n bwysig fod gennym gysylltedd ar draws y rhanbarth i gyd i wneud y gorau o’r cyfleoedd ymhellach i’r gorllewin ac i ddarparu cysylltedd dibynadwy, effeithlon ac o ansawdd da, i’r de ac ar draws y ffin. Mae cynigion amlinellol yn cael eu paratoi, a byddwn yn cyflwyno’r weledigaeth honno o fewn 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth hon. Yn yr un modd, rwy’n awyddus i sicrhau bod datblygu economaidd trawsffiniol yn un o’r pethau y bydd fy ngwaith yn canolbwyntio arno, ac rwy’n bwriadu cynnal uwchgynhadledd ym mis Gorffennaf i bawb sydd â diddordeb, ar ochr Cymru a Lloegr i’r ffin.