Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 15 Mehefin 2016.
Mae tollau croesi Afon Hafren ar y ffin yn cyfyngu ar economi de Cymru ac yn achosi tagfeydd. A fyddech yn cytuno y dylai’r croesfannau hynny ddod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru cyn gynted ag y bo modd a phan fydd hynny’n digwydd, y dylid diddymu’r tollau i leddfu’r cyfyngiad hwnnw ar yr economi leol a rhoi diwedd yn wir ar yr anghyfiawnder maith sydd wedi gwylltio llawer iawn o bobl a sefydliadau ers amser hir?