Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ac a gaf fi ddweud ein bod wedi datgan yn gyhoeddus iawn ein bod yn credu y dylai’r tollau fod yn nwylo Llywodraeth Cymru? Nawr, amcangyfrifir y byddai cael gwared ar y tollau yn hybu cynhyrchiant yng Nghymru rywle oddeutu £100 miliwn neu fwy bob blwyddyn, ac ni allaf weld unrhyw gyfiawnhad dros barhau i beri anfantais i fusnesau Cymru pan ddaw’r consesiwn i ben. Nawr, ein bwriad ni, pe baem yn gallu, yw gostwng lefelau’r tollau, gan leddfu’r baich ar yr economi, ond mae’r Aelod hefyd yn nodi’n gywir fod y tollau’n achosi tagfeydd. Felly, mae angen i ni sicrhau hefyd, os ydym yn cael gwared ar achos y tagfeydd, nad ydym yn ychwanegu at y baich a’r trafferthion a achosir yn nhwnelau Bryn-glas a’n bod yn sicrhau yn lle hynny, ein bod yn datrys problem yr M4 hefyd.