Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 15 Mehefin 2016.
A gaf fi hefyd longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei benodiad a dweud fy mod yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn adeiladol, lle bo’n briodol? Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyfeiriadur Llywodraeth Cymru o gwmnïau chwaraeon modur yng Nghymru yn datgan bod gan Gymru sector moduro sydd wedi’i hen sefydlu, ac sy’n cynhyrchu trosiant o dros £3 biliwn y flwyddyn. Yn wir, un o lwyddiannau mawr y diwydiant twristiaeth yw ein cefnogaeth i’r ralïo yng nghoedwigoedd Cymru, sy’n werth tua £15 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Felly mae chwaraeon modur, wrth gwrs, o bwysigrwydd economaidd hanfodol, a thybed a wnewch chi amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu a diogelu’r diwydiant chwaraeon modur yng Nghymru.