Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 15 Mehefin 2016.
Wel, diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n falch o glywed eich bod yn ymwybodol o’r wybodaeth honno hefyd. Mae dyfodol hirdymor ralïo yng nghoedwigoedd Cymru o dan fygythiad difrifol o ganlyniad i gynnig Cyfoeth Naturiol Cymru i ddyblu’r costau bron i’r diwydiant am ddefnyddio a chynnal a chadw ffyrdd. Nawr, mae’n ymddangos, yn Lloegr a’r Alban, fod cytundeb eisoes wedi’i wneud, gyda chynnydd cymedrol mewn taliadau o 0.7 y cant yn unig. Nawr, a fyddech yn cytuno bod manteision economaidd ehangach i ddigwyddiadau chwaraeon modur, ac na ddylid rhoi dyfodol y diwydiant yng Nghymru yn y fantol? Tybed a fyddech yn cytuno—ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd—i ymyrryd yn bersonol mewn trafodaethau ar y contract rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Motor Sports Association, a fyddai, wrth gwrs, yn caniatáu i’r diwydiant barhau i ffynnu yng Nghymru, yn hytrach na dod i ben?