Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 15 Mehefin 2016.
Wel, rwy’n meddwl y bydd yn syndod i bobl Gwlad Groeg, Sbaen, yr Eidal, Portiwgal a Ffrainc fod Ewrop yn cynnig gobaith, ac rwy’n sicr yn gwrthwynebu barn or-ffyddiog Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, ni all fod unrhyw sicrwydd ynglŷn â’r dyfodol; nid oes sicrwydd y bydd unrhyw un ohonom yn fyw yr adeg hon yr wythnos nesaf. Serch hynny, mae’n rhesymol tybio y bydd Cymru’n cael cyfran eithaf uchel o’r hyn sy’n ddyledus iddi fesul y pen o’r boblogaeth os ydym yn gadael yr UE, ac os ychwanegwn y £5 biliwn ar ben y £10 biliwn a gaiff ei wario mewn mannau eraill yn yr UE—yr arian y mae’r UE yn ei wario ym Mhrydain ar eu blaenoriaethau hwy, nid ein blaenoriaethau ni—mae’n cynnig cyfle enfawr i Lywodraeth Cymru wario ar bethau sydd o bwys i bobl Cymru, yn hytrach nag i fiwrocratiaid Brwsel.