<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:56, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, ni fyddai gadael yr UE yn peryglu swyddi dur o gwbl wrth gwrs. Byddai gennym y rhyddid i wneud yr hyn y mae’r Unol Daleithiau wedi’i wneud a gosod toll o 522 y cant ar ddur wedi’i rolio’n oer yn hytrach na’r doll o 24 y cant y mae’r UE wedi’i hargymell. Ond tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro wrthyf pam y byddai’r UE yn awyddus i osod unrhyw rwystrau masnach yn erbyn y DU pan fo’r ffigurau a gyhoeddwyd rai dyddiau’n ôl yn unig yn dangos bod gennym ddiffyg ariannol o £24 biliwn yn ein masnach mewn nwyddau yn chwarter cyntaf y flwyddyn hon yn unig. Mae ganddynt lawer mwy i’w golli mewn rhyfel masnach nag sydd gennym ni.