Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 15 Mehefin 2016.
Byddwn. Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn ar fater pwysig iawn. Gall ffyrdd amgen o ddatrys anghydfodau gyflymu setliad, sy’n golygu llai o gostau, llai o amser a llai o straen nag a geid wrth fynd â materion i’r llys. Mae’n llwybr ychwanegol defnyddiol i ddefnyddwyr pan fo’n briodol. Mae’n bwysig i ddefnyddwyr gael hyder yn eu trafodiadau. Mae mwy o hyder defnyddwyr o fudd i bob busnes, a gyda mwy a mwy o fusnes yn cael ei wneud ar-lein, mae datrys anghydfodau ar-lein yn arbennig o bwysig i fusnesau sy’n masnachu ar-lein.