Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 15 Mehefin 2016.
Weinidog, rwy’n derbyn bod cyfraith cyflogaeth a materion yn ymwneud â chyflogaeth yn faterion a gadwyd yn ôl, ond mae’r cyngor busnes y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi, yn enwedig i fusnesau newydd a busnesau sy’n dechrau, yn benodol, yn elfen hanfodol o allu rhybuddio cyflogwyr a gweithwyr yn y busnesau hyn sut i osgoi rhai sefyllfaoedd difrifol sy’n costio arian enfawr i’r busnesau newydd hynny ar gyngor cyfreithiol a phrosesau cymrodeddu. Pa sicrwydd sydd gennych fod y cyngor rydych yn ei roi i fusnesau newydd yn ystyried rhai o’r materion cyflogaeth y mae angen iddynt eu hystyried? Oherwydd mae hynny gyn bwysiced â’r marchnata a’r strategaeth ac unrhyw beth arall sy’n ymwneud â sefydlu’r busnes, ac mae’n amlwg yn barhaus ac yn ffocws ym meddyliau cyfarwyddwyr y cwmnïau hynny.