Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Ym Mhort Talbot, mae effaith penderfyniad Tata i werthu’r gwaith dur a hefyd i leihau’r gwaith sy’n cael ei roi ar gontractau allanol i fusnesau lleol yn creu heriau enfawr i gwmnïau lleol, sydd bellach yn wynebu cyfnod anodd i allu parhau i gynnal eu busnesau—fel Fairwood Fabrications, a welsom ar y rhaglen deledu gyda Michael Sheen, sydd eisoes wedi torri nifer eu staff yn ei hanner ac yn wynebu amseroedd heriol iawn i allu parhau i fodoli. Wrth iddynt geisio arallgyfeirio ac ennill contractau newydd mewn llefydd eraill, mae angen cymorth arnynt i allu sicrhau dyfodol eu gweithwyr. Nawr, gallai statws yr ardal fenter ddenu’r cyfleoedd hynny iddynt, ond nid yw hynny’n mynd i ddigwydd dros nos. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i’r cwmnïau hyn er mwyn iddynt allu goresgyn yr heriau sy’n eu hwynebu yn awr, fel y gallant fod mewn sefyllfa i elwa o’r ardal fenter pan ddaw’n weithredol?