<p>Ardal Fenter Port Talbot</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:05, 15 Mehefin 2016

Yn y Cynulliad diwethaf, fe wnes i godi’r pwynt gyda’r Gweinidog ynglŷn â thir sydd gyferbyn â Harbour Way a fydd, rwy’n siŵr, yn rhan o’r parth busnes newydd—bod yna dir yna a fydd yn gallu cael ei ‘util-eiddio’ ar gyfer busnesau newydd. A ydych chi wedi siarad gyda busnesau yn lleol i’w hennyn nhw i allu marchnata i gael y tir hwnnw am bris llai o fewn yr amgylchiadau newydd yma o barth menter ym Mhort Talbot, er mwyn inni hwyluso datblygiad yr ardal benodol honno?