<p>Busnesau Bach yng Nghaerffili</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:10, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae’n hanfodol bwysig i economi Cymru ein bod yn creu 100,000 o brentisiaethau o safon. Amcangyfrifir y bydd pob prentisiaeth yn werth oddeutu £130,000 ar gyfartaledd dros yrfa gyfan, felly bydd yn creu buddiannau economaidd sylweddol i economi Cymru.

Bydd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn gyfrifol am sicrhau bod 100,000 o brentisiaethau yn cael eu creu a’u llenwi. Mae gennym hanes balch iawn yng Nghymru o ran cyfraddau cwblhau: maent yn llawer uwch nag yn Lloegr, ac oddeutu 85 y cant yma yng Nghymru ar hyn o bryd o’i gymharu â’r ffigwr isel i ganolig o 70 y cant yn Lloegr. Felly, byddaf yn gweithio gyda’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i sicrhau bod busnesau o bob maint, ym mhob rhan o Gymru, yn ymwybodol o’r cyfleoedd y mae’r system brentisiaethau yng Nghymru yn eu cynnig.