Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 15 Mehefin 2016.
Rwy’n dymuno’r gorau i’r Gweinidog ar gyfer dringo mynydd economaidd Cymru. Roedd arolwg diweddar gan y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru yn holi aelodau am y blaenoriaethau allweddol y buasent yn hoffi eu gweld gan Lywodraeth Cymru. Roedd ugain y cant o’r ymatebwyr yn awyddus i weld un corff yn cael ei greu i gefnogi busnesau bach yng Nghymru. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i sefydlu un corff y gall cwmnïau droi ato i gael gwybodaeth er mwyn cydlynu cymorth i fusnesau bach yng Nghaerffili a gweddill Cymru?