<p>Busnesau Bach yng Nghaerffili</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:12, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei sylwadau caredig a’i gwestiwn. Wel, wrth gwrs, mae gwasanaeth £61 miliwn Busnes Cymru yn parhau i gynnig un man o’r fath i fusnesau bach droi ato. Lansiwyd cam diweddaraf Busnes Cymru ym mis Ionawr, gyda’r nod o greu 10,000 o fusnesau newydd a 28,300 o swyddi newydd a darparu cymorth i helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ifanc ac i helpu busnesau bach a chanolig sy’n bodoli eisoes i dyfu. Mae hynny’n rhywbeth y mae Busnes Cymru wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus yn ei gyflawni hyd yma—fel y dangosir yn ein ffigurau cyflogaeth, ein ffigurau diweithdra a’n ffigurau ar gyfer busnesau bach newydd. Felly, mae gennym fesur o lwyddiant hyd yma yn hyn o beth, ond rwy’n awyddus i sicrhau bod Busnes Cymru yn parhau i ddarparu ar gyfer busnesau a phobl ein gwlad.