<p>Datblygu Croesiad y Fenai</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:14, 15 Mehefin 2016

Diolch yn fawr iawn. Mae’r Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi bod yn gwthio yn gyson am fuddsoddiad mewn trydydd croesiad neu ddeuoli y Britannia, yn dibynnu pa ffordd rydych chi eisiau ei weld o. Mi oeddwn i’n ddiolchgar iawn o weld y Llywodraeth yn cytuno i fwrw ymlaen â’r astudiaeth fusnes yn ddiweddar ac rwy’n siŵr y bydd y cynlluniau yn dod rhagddyn nhw yn fuan.

Rŵan, heddiw mae’r National Grid wedi cyhoeddi’u cynlluniau diweddaraf ar gyfer trosglwyddo trydan ar draws Ynys Môn a’r Fenai. O ran croesi Ynys Môn, mae’r grid yn gwbl ddigyfaddawd o ran ei benderfynoldeb i gadw’r gwifrau uwchben y ddaear. Maen nhw am fynd o dan y Fenai—mi fyddem ni’n disgwyl iddyn nhw wneud hynny; nid oedd ganddyn nhw fawr o ddewis. Ond onid oes yna gyfle yn y fan hyn i gael ychydig o gydweithio rhwng gwahanol adrannau, os hoffwch chi, sef drwy fynd â’r gwifrau ar draws pont newydd ar draws y Fenai a chael y grid i gyfrannu at y gost honno? Rwyf yn ymwybodol bod yna broblem yma o ran yr amseru, ond a wnaiff y Gweinidog roi ymrwymiad i wneud popeth o fewn ei allu i oresgyn y problemau hynny, achos mae yna gyfle go iawn i ladd dau dderyn efo un garreg yn fan hyn?