<p>Datblygu Croesiad y Fenai</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:15, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Yn bendant. Mae’r Aelod yn graff ac yn gywir yn ei sylwadau a’i argymhellion. Cyfarfûm â’m swyddogion heddiw i drafod yr union fater hwn. Rydym yn croesawu’r newyddion diweddaraf ar y prosiect heddiw, a gyhoeddwyd gan y Grid Cenedlaethol. Mae wedi darparu mwy o fanylion ynglŷn â’r opsiynau tanddaearol ar gyfer croesi’r Fenai, ac mae swyddogion yn parhau i ymgysylltu â’r Grid Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod unrhyw ateb yn addas i’r diben, nid yn unig ar gyfer creu cysylltiad ond er mwyn diogelu a bod yn ymwybodol o’r amgylchedd lle caiff ei roi. Felly, bydd dimensiwn y grid yn cael ei ystyried yn rhan o’r achos busnes.