Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 15 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae cyngor Merthyr wedi sicrhau cyllid o bron i £12.9 miliwn o dan raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau adfywio ym Merthyr Tudful. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i ganmol menter Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful a chyngor Merthyr Tudful am ddefnyddio grant o’r trefniant cyllid hwn i gefnogi datblygiad cyfleuster modern ym Mharc Penydarren, gan ddarparu menter chwaraeon cymunedol cynaliadwy, sy’n annog mwy o ymgysylltiad rhwng y cyhoedd a’r clwb yn ogystal â sicrhau manteision economaidd lleol ychwanegol, wrth gwrs, sy’n codi o’r contract adeiladu a ddaeth gyda hynny?