<p>Gwella Iechyd a Llesiant Pobl Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 15 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:20, 15 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Yn Nwyrain Casnewydd, rydym wedi bod yn cyfarfod yn lleol—fi, y bwrdd iechyd lleol, yr ymddiriedolaeth hamdden, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, y cyrff chwaraeon lleol a llu o rai eraill—i weld sut y gallwn gael y boblogaeth leol yn fwy corfforol egnïol. Felly, tybed a fuasech yn cytuno, Weinidog, y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi’r ymdrechion hynny, oherwydd os ydym am fod yn fwy rhagweithiol a bwrw ymlaen gydag iechyd ataliol, mae angen i ni ddod â phartneriaid at ei gilydd i gyflawni camau gweithredu ystyrlon yn lleol, ar hyd a lled Cymru.