Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 15 Mehefin 2016.
Rydych yn hollol gywir i nodi mai gweithio mewn partneriaeth yw’r ateb a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru, gyda Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi penodi cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol ar gyfer Cymru, ac mae’r cyfarwyddwr hwnnw yn paratoi cynllun gweithredu ar hyn o bryd. Rydym yn edrych ymlaen at gael hwnnw tua diwedd y tymor hwn. Byddaf yn treulio’r haf yn ei ystyried ac yn siarad â rhanddeiliaid amdano, gyda golwg ar ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn yr hydref, a nodi’r camau gweithredu ar gyfer y camau nesaf.